Loading

Crys Cymru Phil Waller

J. C. Stewart Outfitter, Edinbrough1908

Welsh Rugby Union

Welsh Rugby Union
Y Deyrnas Unedig

Phil Waller wisgodd y crys Cymru hwn. Wedi’i eni yng Nghaerfaddon ond wedi’i addysgu a’i ddatblygu fel chwaraewr rygbi yng Nghymru, enillodd Phil Waller ei gap cyntaf dros Gymru yn Rhagfyr 1908 yn erbyn Awstralia.
Chwaraeodd 6 gêm i Gymru. Ni gollodd Cymru erioed pan oedd Phil yn chwarae. Roedd yn flaenwr rhagorol i'w glwb, Casnewydd, ac i Gymru. Ym 1910 cafodd ei ddewis i chwarae i dîm y Llewod a aeth ar daith i Dde Affrica. Ar y daith honno chwaraeodd yn 23 o'r 24 gêm a chwaraewyd – camp anhygoel. Ar ddiwedd y daith arhosodd Phil yn Ne Affrica i fyw a gweithio. Tra bu yno, bu'n chwarae i glwb enwog y Wanderers yn Johannesburg. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Phil â Magnelwyr De Affrica a theithiodd i ymladd dros ei wlad yn Ffrainc. Fe’i clwyfwyd a bu farw o'i glwyfau yn Beaumetz-les Cambrai ar 14 Rhagfyr 1917 yn 28 oed.

Details

  • Title: Crys Cymru Phil Waller
  • Creator: J. C. Stewart Outfitter, Edinbrough
  • Date Created: 1908
  • Rights: WRU

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Flash this QR code to get the app

Interested in Sport?

Get updates with your personalised Culture Weekly

You're ready!

Your first Culture Weekly will arrive this week.

Apiau Google