Cymru gynhaliodd gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd ym 1999. Hwn oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i'w gynnal yng Nghymru. Adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm, ar y pryd, yn gyflym er mwyn cynnal prif gemau’r twrnamaint hwn. Collodd Cymru yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Awstralia, a ddaeth yn bencampwyr maes o law. Mae'r crys hwn sydd wedi'i lofnodi gan y chwaraewyr yng ngharfan Cymru yn dathlu bod URC wedi cynnal y digwyddiad byd-eang hwn.