Roedd James Ward yn lliwydd gwych, yn ddyluniwr celfydd iawn, yn brintiwr a hefyd yn arlunydd anifeiliaid rhagorol. Fe’i hystyrir yn un o artistiaid mwyaf blaenllaw mudiad Rhamantaidd Prydain.
Fel y gwelir yn y gwaith hwn o Felin Aberdulais sydd ar lan yr Afon Dulais, Aberdulais ger Castell-nedd, mae’n amlwg ei fod yn feistr ar bortreadu golau. Mae ei sylw i fanylion yn anghymharol yn y gwaith hwn, ac mae ei arbenigedd wrth beintio ffurf yr anifail yn hollol amlwg i bawb.
Roedd Melin Aberdulais a’i lleoliad pictiwrésg yn dynfa i nifer o artistiaid, gan gynnwys yr artist enwog J.M.W. Turner ym 1796. Tynnwyd pŵer o'r rhaeadr hon i gynhyrchu copr ers 1584, gan ddod i ben yn yr 17eg ganrif. Fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach ar gyfer melino grawn ac yna i gynhyrchu tunplat.