Yma gwelwn yr arlunydd artisan John Cambrian Rowland yn darlunio clochydd Caernarfon mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Mae'r gwaith yn ddiddorol o safbwynt cenedlaethol yn ogystal ag o safbwynt celf hanesyddol.
Cafodd ei ysbrydoli gan Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), aeres a noddwraig y celfyddydau Cymreig. Hall, mewn ffordd a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig. Enillodd wobr yn Eisteddfod Frenhinol Caerdydd ym 1834 am draethawd a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a gwisgoedd cenedlaethol Cymru. Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaeth Arglwyddes Llanofer oedd troi gwisg gwlân trwm y dosbarth gweithiol ar draws Ewrop o'r cyfnod canoloesol i fod yn wisg genedlaethol Gymreig. Ysbrydolwyd Rowland ym 1848-1850 gan y ffasiwn newydd i greu nifer o brintiau o wisgoedd a drowyd yn ddiweddarach yn engrafiadau a gyhoeddwyd gan Edward Parry o Gaer. Bu'r rhain yn hynod boblogaidd ac roedden nhw'n gwerthu'n dda. Argraffwyd y lluniau weithiau hefyd ar addurniadau 'kitsch' a'u gwerthu mor bell â'r Alban.