Wedi’i eni yng Nghaerfaddon ond wedi’i addysgu a’i ddatblygu fel chwaraewr rygbi yng Nghymru, enillodd Phil Waller hwn, ei gap cyntaf dros Gymru, yn Rhagfyr 1908 yn erbyn Awstralia.
Chwaraeodd 6 gêm i Gymru. Ni gollodd Cymru erioed pan oedd Phil yn chwarae. Roedd yn flaenwr rhagorol i'w glwb, Casnewydd, ac i Gymru. Ym 1910 cafodd ei ddewis i chwarae i dîm y Llewod a aeth ar daith i Dde Affrica. Ar y daith honno chwaraeodd yn 23 o'r 24 gêm a chwaraewyd – camp anhygoel. Ar ddiwedd y daith arhosodd Phil yn Ne Affrica i fyw a gweithio. Tra bu yno, bu'n chwarae i glwb enwog y Wanderers yn Johannesburg. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Phil â Magnelwyr De Affrica a theithiodd i ymladd dros ei wlad yn Ffrainc. Fe’i clwyfwyd a bu farw o'i glwyfau yn Beaumetz-les Cambrai ar 14 Rhagfyr 1917 yn 28 oed.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.