Dyma’r map printiedig cynharaf yn benodol o Gymru ac fe’i crynhowyd gan Humphrey Llwyd (1527-1568), ychydig cyn ei farwolaeth.
Wedi'i gyhoeddi yn gyntaf yn 1573 gan Abraham Ortelius, Cambriae Typus yw’r map printiedig cyntaf i ddangos Cymru fel endid ar wahân. Er bod ganddo lawer o anghywirdebau e.e. mae’n dangos Cymru fel petai yn ymestyn i’r Afon Hafren (ac felly yn cynnwys rhannau mawr o beth a elwir yn awr yn Lloegr), roedd yn welliant mawr ar fapiau cynt.
Yn Cambriae Typus, canolbwyntiodd Llwyd ar greu map hanesyddol a diwylliannol yn hytrach na phortreadu’r sefyllfa wleidyddol gyfoes.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.