Credir mai’r gêm rygbi merched gyntaf a gofnodwyd yn swyddogol yw rhwng merched Caerdydd sydd yn y llun hwn, a thîm merched Casnewydd ar 15 Rhagfyr 1917.
Gohiriwyd y rhan fwyaf o gemau rygbi a drefnwyd yn ystod y Rhyfeloedd Byd, ond trefnwyd rhai gemau er budd elusennau rhyfel. Roedd hyn yn cynnwys y gêm hon rhwng Merched Caerdydd a Chasnewydd, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o fragdy a gwaith haearn lleol, ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Casnewydd oedd yn fuddugol, gan guro eu gwrthwynebwyr 6-0.
Mae'n bosibl mai'r ffotograff hwn, ynghyd â llun o dîm Casnewydd (a gedwir yn Amgueddfa World Rugby) yw'r ffotograffau hynaf o dimau rygbi merched.
Mae'r ffotograff hwn yn rhan o gasgliad Amgueddfa Rygbi Caerdydd.