Loading

Clun Valley motor car & garage

Percy Benzie Aberycirca 1910s

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Roedd P B Abery yn fab i groser ac yn un o 13 o blant ac yn hanu o Folkestone yn swydd Caint. Daeth i fyw yn Llanfair ym Muallt yn 1898. Pan oedd ond yn 21 oed prynodd fusnes ffotograffiaeth bychan, ac yn 1911 fe symudodd i adeilad mwy, sef y West End Studio, lle'r arhosodd tan ei farwolaeth yn 1948.

Yn yr haf, byddai P B Abery yn gwneud ei fywoliaeth wrth dynnu lluniau'r bobl a fyddai'n ymweld â'r Ffynhonnau. Byddai'r ffotograffau'n cael eu harddangos y tu allan i'r siop fore trannoeth, a byddai twr o bobl yn ymgynnull yno i chwilio am luniau ohonynt eu hunain.

Roedd P B Abery yn hoff iawn o'r awyr agored, a byddai wrth ei fodd yn crwydro'r wlad yn tynnu lluniau o olygfeydd a bywyd gwledig Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Gororau Lloegr. Pan gychwynnodd y Birmingham Water Works ar waith adeiladu'r argaeau yng Nghwm Elan, fe'i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol y cynllun. Ym mis Rhagfyr 1947, ychydig cyn ei farwolaeth, cynhaliwyd arddangosfa o luniau argaeau P B Abery yn y Birmingham Civic Centre.

Roedd P B Abery hefyd yn gyfrannwr cyson ar faterion amaeth a chwaraeon i'r papurau newydd dyddiol cenedlaethol a'r papurau newydd wythnosol.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Interested in Science?

Get updates with your personalised Culture Weekly

You're ready!

Your first Culture Weekly will arrive this week.

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites