Roedd Dr Richard Price yn athronydd moesol, yn bregethwr ac yn fathemategydd Cymreig. Roedd hefyd yn anghydffurfiwr â diddordeb dwfn mewn gwleidyddiaeth. Cafodd ei eni yn Llangeinwyr, Morgannwg, De Cymru ond bu’n byw a gweithio am y rhan fwyaf o'i oes yn Llundain. Dangosir Dr. Richard Price yn ei stydi, yn darllen llythyr o 1784 oddi wrth Benjamin Frankin a oedd yn gyfaill agos i Price am flynyddoedd lawer. Ysgrifennodd Price yn ei ddyddiadur llaw-fer am eistedd i’r portread hwn ac mae’r dyddiadur yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y paenitiad hwn gan Benjamin West yw’r unig bortread swyddogol o’r athronydd moesol hynod bwysig yma, er bod dwy fersiwn arall yn bodoli.