Loading

Faciwîs o Benbedw yn cyrraedd Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn.

Geoff Charles (1909-2002)9 Medi 1939

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Mae'r ddelwedd hon gan y ffotograffydd Geoff Charles yn portreadu bywydau'r plant a ddaeth i Gymru fel faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod yr amser hwn, symudwyd dros filiwn o blant o ddinasoedd Prydain fel y byddent yn fwy diogel o'r bomiau a'r cyrchoedd awyr. Anfonwyd dros 200,000 o'r plant hyn i bob rhan o Gymru. Yn aml, byddai'n rhaid iddynt deithio ar drenau a byddent yn gadael eu teuluoedd gyda dim ond ychydig o eiddo personol, mwgwd nwy a thag adnabod.

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad gwerthfawr o 120,000 o negyddion y ffotograffydd Geoff Charles. Mae ei ffotograffau’n amhrisiadwy wrth iddynt groniclo amrywiaeth o agweddau ar fywyd yng Nghymru a’r Gororau. Cofnodir llawer mwy na digwyddiadau a phersonoliaethau gan ei waith; cofnodir hefyd bywyd pob dydd pobl cyffredin a datgelir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu mewn nifer o’i ffotograffau.

Show lessRead more
  • Title: Faciwîs o Benbedw yn cyrraedd Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn.
  • Creator: Geoff Charles (1909-2002)
  • Date Created: 9 Medi 1939
  • Location Created: Y Drenewydd, Powys, Cymru
  • Type: Ffotograff
  • External Link: Gweld yn syllwr Casgliadau LlGC
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites