Cynhyrchwyd y pymtheg golygfa a grybwyllir yn nheitl y gyfrol hon, ac sydd yn ffurfio ei chanolbwynt, o ddyfrlliwiau gwreiddiol gan yr arlunydd John 'Warwick' Smith. Gwnaed y daith ei hun gan Syr James Edward Smith, gŵr sy'n adnabyddus fel gwyddonydd ac fel cadeirydd y Linnean Society.
Mae'r awdur yn cychwyn ei daith yn Llundain, yn trafeilio oddi yno i Gaerfaddon a chroesi Môr Hafren mewn cwch. Yna mae'n teithio drwy ardaloedd mwyaf darluniadwy de Cymru, ond ei nod yw ymweld ag ystad enwog Hafod Uchdryd.
Crewyd Hafod, a leolir ym mhen uchaf Cwm Ystwyth yng ngogledd Ceredigion, gan Thomas Johnes, a chyfeirir ato'n aml fel Johnes yr Hafod. Ystyriwyd y tŷ a'r gerddi ymysg y gorau o'r ystadau darluniadol ym Mhrydain. Ymwelodd llawer o ddarlunwyr ac awduron â chanolbarth Cymru er mwyn gweld Hafod. Roedd gan Johnes weledigaeth gyfannol o'i baradwys wledig: cynhwysai gerfluniau, ogofâu, pontydd a golygfeydd gwych fel rhan o'i gynllun. Yn y tŷ yr oedd Johnes wedi casglu ynghyd gasgliad trawiadol o gelf weledol.
Canolbwyntia testun Smith ar ddisgrifio Hafod a'r ardaloedd cyfagos. Cawn hanes byr o'r ystad a'r teuluoedd oedd yn ei redeg. Yna, mae'r awdur yn ein harwain ar hyd y llwybrau drwy'r goedwig o gwmpas Hafod a Phontarfynach, gan dynnu sylw at y wlad o gwmpas. Y mae darluniau godidog Warwick Smith yn galluogi darllenwyr i rannu'r profiad o ymweld â thirlun Hafod a oedd yn hardd ond, bryd hynny, yn anghysbell.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.