Roedd y teulu Harries yn enwog drwy Gymru a siroedd cyfagos dros y ffin yn Lloegr fel meddygon proffesiynol, llawfeddygon dawnus ac astrolegwyr medrus a oedd yn uchel eu parch yn y gymdeithas. Fe ddaethon nhw’n enwog am eu dawn i broffwydo’r dyfodol, darganfod eiddo a oedd ar goll neu wedi ei ddwyn, brwydro gwrachyddiaeth a chodi ysbrydion rhadlon ac o ganlyniad fe’u condemniwyd yn arw gan grefyddwyr y 19eg ganrif.
Dywedir iddo guddio un o’i lyfrau dan glo, gan fentro ei agor unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw, lle byddai’n darllen swynion amrywiol ohoni i alw ysbrydion. Mae’n debyg bod storm ddifrifol yn digwydd bob tro yr agorid y llyfr. Dyma sail y syniad bod pŵer y teulu’n deillio o’r gyfrol drwchus o swynion yma a oedd wedi ei rhwymo gan gadwyn haearn a 3 chlo.
Dywedir bod John Harries wedi cael rhagargoel y byddai’n marw trwy ddamwain ar Fai yr 11eg 1839, ac er mwyn osgoi hyn, arhosodd yn y gwely drwy’r dydd. Aeth y tŷ ar dân yn ystod y nos a bu farw.