Yn 1820 paentiodd yr arlunydd George O. Delamotte gyfres o ddyfrlliwiau yn dangos cymeriadau o wahanol ardaloedd yn ne Cymru yn eu dillad pob dydd. Dyma un o'r delweddau hynny sy'n portreadu dynes o’r enw Kitty Prosser. Mae ei bortreadau yn rhoi syniad inni o wisg pobl gyffredin ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan amlygu tlodi a chaledi eu bywydau yn aml.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.