Loading

Llyfr Oriau Llanbeblig

1390/1400

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Roedd Llyfrau Oriau yn boblogaidd iawn yng Ngorllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Cynhyrchwyd degau o filoedd ohonynt ac mae nifer wedi goroesi mewn llyfrgelloedd a chasgliadau preifat trwy'r byd. Trwy gyfrwng Llyfrau Oriau, gallai lleygwyr defosiynol ddilyn patrwm o addoli yn eu cartrefi yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys, lle rhannwyd y diwrnod yn wyth rhan neu 'awr'. Pennwyd gweddïau penodol ar gyfer pob un o'r oriau, gyda chalendr yn nodi gwyliau a dathliadau arbennig. Roedd nifer o'r llyfrau yn hynod addurnedig gyda lluniau o seintiau, Y Forwyn Fair, a Christ.

Yn ôl pob tebyg, crëwyd y llawysgrif tua 1390-1400. Ceir tystiolaeth i gysylltu'r llawysgrif ag ardal Caernarfon gan fod dathliad cysegru eglwys Peblig Sant yn ymddangos yn y Calendr. Mae'n bosib mai'r perchennog cyntaf oedd Isabella Godynogh (bu f. 1413) y ceir nodyn am ei marwolaeth yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill.

Yn ogystal ag 'Oriau y Forwyn', cynhwysa Llyfr Oriau Llanbeblig nifer o nodweddion gwerth sylwi arnynt, fel y ddelwedd brin 'Croeshoeliad y Lili' a'r dyddiadau Cymreig yn y calendr.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites