Yn 1797 teithiodd yr awdur Henry Wigstead o gwmpas Cymru yng nghwmni "my friend Mr Rowlandson". Mae'n debygol fod Thomas Rowlandson wedi'i gyflogi nid yn unig fel cwmni i'r awdur ond hefyd fel arlunydd ar gyfer cynllun i gyhoeddi hanes taith fer drwy Gymru. Cyhoeddodd Wigstead ei gyfrol 'Remarks on a tour to North and South Wales' yn 1799 gyda 22 acwatint ar sail lluniadau Rowlandson sydd yn awr yng nghasgliad y Llyfrgell, yn ogystal ag esiamplau o'i luniadau yntau mewn llaw galed a braidd yn wasaidd.
Mae'r gyfres yn ddiddorol oherwydd nid yn unig y mae'n portreadu safleoedd crand fel Castell Cas-gwent neu Bont Aberglaslyn, ond hefyd pentrefi anadnabyddus megis Castellnewydd Emlyn. Yn ei ddarlun o Aberystwyth gwelir yn amlwg hoffter Rowlandson o fywyd a chyffro. Fel casgliad mae'r lluniadau hyn yn gosod ger ein bron ddarlun byw o fywyd cefn gwlad yn ystod haf 1779 trwy lygaid arlunydd a oedd yn medru cyfuno tirlun bictwrésg ag arsylwi gofalus.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.