Hunan bortread o Mary Dillwyn a dynnwyd o ddeutu 1853 ac sy'n ffurfio rhan o'i halbwm Llysdinam a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Crëwyd yr albwm oddeutu 1853, cyn i Mary briodi'r Parchedig Welby yn 1857 a gadael Penlle’r-gaer. Prynodd y Llyfrgell yr albwm hwn yn 2007 gan Ystâd Llysdinam, Sir Frycheiniog, sef ystâd a ddaeth dan berchnogaeth teulu Dillwyn Llewelyn yn y 1890au. Mae’r albwm yn un bychan iawn o ran maint, yn mesur 12 x 9.7 cm, ac mae’n cynnwys 72 dalen liwgar â 46 ffotograff, gyda 22 o’r ffotograffau yma yn rhydd o fewn yr albwm. Mae ganddo rwymiad prydferth o ledr glas tywyll gydag addurniad o ddail aur o’i amgylch. Mae’r ffotograffau yn brintiau halen o’r broses ‘calotype’ a ddyfeisiwyd rhwng 1835 a 1841 gan William Henry Fox Talbot (1800-1877) sef ffrind agos i’r teulu a chefnder i wraig John Dillwyn Llewelyn. Papur print halen oedd y math cyntaf o bapur print i gael ei ddefnyddio mewn ffotograffiaeth. Golygai hyn bod modd creu copïau diddiwedd o’r un ddelwedd; proses ffotograffig sy’n dal i gael ei defnyddio heddiw.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.