Y llawysgrif wyddonol gynharaf yn y Llyfrgell Genedlaethol yw llsgr. NLW 735C, sy'n cynnwys testunau Lladin ar seryddiaeth, wedi eu hysgrifennu mewn llawysgrifen fân Siarlaidd. Cyfrol mewn dwy ran yw hon, y rhan gyntaf wedi ei chopïo tua 1000 yn ardal Limoges yn Ffrainc, fwy na thebyg o fewn cylch Adémar de Chabannes (989-1034), a'r ail ran, a gopïwyd tua 1150, yn deillio o scriptorium yn yr un rhanbarth. Cyfieithiad Lladin gan Germanicus (15 CC-19 OC) o'r Phaenomena a gyfansoddwyd yn yr iaith Roeg gan Aratus o Soli (tua 315-tua 240 CC) yw'r prif destun yn y rhan gynharaf. Traethawd yn disgrifio'r cytserau yw hwn, sy'n cynnwys cyfres nodedig o ddiagramau a lluniadau lliw yn dangos i ba raddau yr oedd myth, seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth yn gorgyffwrdd yn y cyfnod.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.