Tîm Seland Newydd oedd y tîm teithiol mawr cyntaf i deithio o hemisffer y de i chwarae ym Mhrydain ac Iwerddon. Roeddent yn dîm gwych a oedd yn chwarae rygbi ar lefel o athletiaeth a gallu nas gwelwyd o'r blaen yn y wlad hon. Roedd y crys hwn o'r daith honno. Mae ansicrwydd a gafodd ei wisgo pan chwaraeodd tîm Seland Newydd yn erbyn Cymru ond yn bendant, mae hwn yn grys a wisgwyd ar y daith. Enillodd y Crysau Duon bob un o'u gemau ar y daith ac eithrio'r gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr 1905. Gyda chais gan Dr Teddy Morgan, enillodd Cymru'r gêm 3-0. Gellir dadlau mai hon yw'r gêm bwysicaf yn hanes Rygbi Cymru hyd heddiw.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.