Ymddangosodd y portread hwn o Sam Lewis, Abertawe, yn y 'Book of Costume Drawings' gan Delamotte. Mae dyfrlliwiau cain yn y gyfrol hon yn dangos cymeriadau o wahanol ardaloedd yn ne Cymru yn eu dillad pob-dydd. Maent yn rhoi syniad i ni o wisg pobl gyffredin ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan amlygu tlodi a chaledi eu bywydau yn aml. Mae nifer o'r cymeriadau wedi'u darlunio mewn mannau adnabyddus yn rhai o drefi a phentrefi Cymru, fel sgwâr y farchnad yn Abertawe. Ceir ambell enghraifft o draddodiadau brodorol, fel y darlun o'r dyn yn cludo cwrwgl ar ei gefn, a Mrs Gwyn yn cario baban mewn siôl yn 'y dull Cymreig'.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.