Ganwyd Penry Williams ym Merthyr Tudful yn 1802, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Rhufain yn arlunio. Deuai yn ôl i Gymru yn weddol reolaidd i beintio neu dderbyn comisiynau ac i ymweld â ffrindiau. Mae'n adnabyddus am ei baentiadau o dirweddau diwydiannol a oedd yn seiliedig ar olygfeydd o amgylch cymoedd diwydiannol Cymru. Bu farw Penry Williams ar 27 Gorffennaf 1885 ond caiff ei adnabod, tan y diwrnod hwn, fel un o brif arlunwyr Cymru.