Ganed John Thomas yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i labrwr. Yn 1853 symudodd i Lerpwl i weithio ac erbyn dechrau’r 1860au, dysgodd elfennau ffotograffiaeth. Yn 1863 dechreuodd dynnu ffotograffau o enwogion trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo. Bu'r fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 yr oedd yn ddigon hyderus i gychwyn ei fusnes ffotograffig ei hun, The Cambrian Gallery. Parhaodd â'r gwaith am yn agos i ddeugain mlynedd gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru yn tynnu lluniau o olygfeydd yn ogystal â phobl.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.