Print gan yr artist John George Wood yn dangos golygfa o Waith Copr Cwmni Bryste, ger Abertawe. Mae'r gweithfeydd copr wedi eu lleoli ar lan yr Afon Gwy, er mwyn hwyluso'r gwaith o gludo nwyddau a deunyddiau. Yng nghornel dde isaf y llun, darluniodd Wood lun o gwpl yn sefyll yn ffarwelio â chwch wrth iddo ddiflannu i lawr yr afon. Mae'r print hwn yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r casgliad yn cynnwys tua 14,000 o brintiau wedi’u dyddio rhwng canol y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif.