Loading

Achos Dorothy Griffith a Gwrachyddiaeth

Llys y Sesiwn Fawr1656

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Bu ddiddordeb mawr mewn gwrachyddiaeth erioed. Mewn cymdeithasau cyn-lythrennog credid bod dewiniaeth "wen" yn medru cynnig iechyd a bendithion nad oeddent ar gael trwy grefydd neu feddyginiaeth. Ar y llaw arall roedd dewiniaeth "ddu" yn niweidiol ac yn gofyn am weithredu ymwybodol ddrwg megis melltithio cymydog neu wneud niwed i anifail.

Yn ystod y canol oesoedd datblygodd syniadaeth newydd am ddewiniaeth gan ddiwinydion a chyfreithwyr, sef y cysyniad o gytundeb â'r diafol. Dadleuwyd fod gwrachod yn derbyn eu pwerau trwy gysylltiad uniongyrchol â'r diafol. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, daethpwyd i ofni gwrachyddiaeth a heresi grefyddol fel ei gilydd ac mewn rhai ardaloedd troes hyn yn ymgyrchoedd erlid i geisio dileu pob arlliw o wrachyddiaeth yn llwyr. Ceir tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr i ddangos fod gwrachod wedi eu herlyn yng Nghymru.

Yn yr achos cyntaf ceir William Griffith, morwr o Bictwn, yn cyhuddo Dorothy Griffith o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes modd gwybod bellach pam yn union y cafodd y cyhuddiad ei wneud, ond mae'n debyg fod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd.

Show lessRead more
  • Title: Achos Dorothy Griffith a Gwrachyddiaeth
  • Creator: Llys y Sesiwn Fawr
  • Date Created: 1656
  • Location: Sir Fflint, Cymru
  • Location Created: Sir Fflint, Cymru
  • Type: Archif
  • External Link: Gweld yn Oriel Ddigidol LlGC
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Interested in Food?

Get updates with your personalised Culture Weekly

You're ready!

Your first Culture Weekly will arrive this week.

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites