Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950) sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg. Mae'r llawysgrif hon, Peniarth 28, yn cynnwys copi Lladin o Gyfreithiau Hywel Dda ac yn perthyn i un o gasgliadau craidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llawysgrifau Peniarth.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.