Rhan o gasgliad gweithiau celf mewn ffrâm y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r casgliad yn cynnwys gweithiau artistiaid megis J M W Turner, Richard Wilson, Thomas Gainsborough, Paul Sandby a James Ward yn ogystal â gweithiau sy’n adlewyrchu’r traddodiad artistig Cymreig brodorol megis William Roos, Hugh Hughes a'r Parch. Evan Williams. Cynnwysir hefyd feistri modern gan gynnwys Syr Kyffin Williams, Will Roberts ac Evan Walters. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud ymdrech i gasglu'r gweithiau hynny sy’n ymwneud â Chymru yn bennaf.
Teitl y darn sy'n ymddangos fan hyn yw 'Bodwenny, Llandderfel', ac mae'n darlunio ysgoldy Cymraeg o'r 19eg ganrif. Rhoddwyd i'r Llyfrgell gan Miss L.M. Davies.