Blaenddalen y cyhoeddiad 'Yny lhyvyr hwnn'.
Awdur ‘Yny lhyvyr hwnn’ oedd Syr John Prise, uchelwr ac ysgrifennydd Cyngor Cymru a’r Mers. Roedd yn un o’r casglwyr pwysicaf o lawysgrifau yn ei ddydd, yn dilyn Diddymiad y Mynachlogydd. Prif amcan y cyhoeddiad oedd unioni’r prinder deunydd ar gael yn yr iaith Gymraeg, yn benodol deunydd crefyddol, yr hyn a fygythiai amddifadrwydd ysbrydol i siaradwyr yr iaith. Yn ogystal, roedd ‘Yny lhyvyr hwnn’ yn fenter ddyngarol, gyda’r bwriad o osod mewn print etifeddiaeth lenyddol Cymru, ac o’r oherwydd cynhwysodd Prise adran ABC yn y cyhoeddiad, ynghyd â’r wyddor Gymraeg am y tro cyntaf mewn print. Argraffwyd hefyd gofnod o seintiau Cymreig, Seisnig ac Ewropeaidd, yn ogystal â rhagolwg misol at bwrpas amaethyddol. Testun crefyddol cynhwysfawr yw rhan olaf y llyfryn. Roedd y pynciau hyn yn cael lle blaenllaw iawn mewn nifer o gyhoeddiadau Cymraeg cynnar. Argraffwyd ‘Yny lhyvyr hwnn’ yn Llundain gan Edward Whitchurch yn 1546.