Cymerwch gip ar chwe chartref ar hyd y teras i weld sut mae’r ystafelloedd, y dodrefn a’r cynnwys yn newid rhwng 1805 a 1985. Os byddwch chi’n mwynhau’r daith, dewch i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i weld yr adeiladau go iawn.
Tu allan i’r Tai
O Ferthyr Tudful y daw’r teras hwn yn wreiddiol. Fe’i hadeiladwyd tua 1795 gan y meistr haearn, Richard Crawshay, yn gartrefi i’w weithwyr. Erbyn 1850 roedd glo yn disodli’r diwydiant haearn.
Roedd y rhan fwyaf o’r dynion ar y teras yn dal i weithio yn y pyllau glo tan y 1960au. Yn y 1970au, cynyddodd diweithdra a symudodd pobl o’r tai, gan adael llawer ohonynt yn wag. Gadawodd y preswylwyr olaf ym 1979 ar ôl llifogydd.
Symudwyd y tai i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a’u hagor ym 1987.
Tai drwy amser
Gallwch weld tu blaen y bythynnod, wedi’u gwahanu o’u gerddi â iard gul sef y ‘beili’. O’r chwith i’r dde, maen nhw’n ymddangos fel roedden nhw ym 1805, 1855, 1895, 1925, 1955 a 1985.
Roedd dau deras a chyfanswm o 29 tŷ ar safle gwreiddiol Rhyd-y-car.
Gerddi
Roedd y gerddi’n gul ond yn hir, ac roedden nhw’n bwysig i’r bobl oedd yn byw yma. Roeddent yn cael eu defnyddio i dyfu amrywiaeth o lysiau, a byddai bron i bob preswylydd yn cadw mochyn. Byddai’n cael ei fwydo ar wastraff o’r tŷ, ac roedd yn ffynhonnell bwysig o gig i’r teulu.
Tŷ bach tu allan
Erbyn 1895 roedd tai bach wedi’u codi yn yr ardd, ac yn cael eu rhannu gyda’r cymdogion drws nesaf. Cyn hynny, doedd dim tai bach ganddyn nhw. Mae bath tun yn hongian ar wal y tŷ bach. Byddai pobl yn ymolchi yn y bath o flaen y tân yn y tŷ.
Cwt glo
Roedd y glo ar gyfer y tân yn cael ei gadw mewn cwt glo yn yr ardd flaen. Roedd y cytiau’n ddigon mawr i gadw digon o lo i bara rhai wythnosau.
Tŷ 1805
Mae’r bwthyn hwn wedi’i ddodrefnu fel cartref i deulu ifanc a symudodd o’r gorllewin i weithio yn y mwyngloddfeydd haearn. Roedd gweithwyr haearn ar frig y dosbarth gweithiol.
Mae gan bob tŷ ystafell fyw, gydag ystafell wely uwch ei phen.
Yn y cefn mae pantri bach lle roedd yr offer coginio a’r bwyd yn cael eu cadw, ac ystafell wely. Roedd y tai’n well na’r bythynnod fferm roedden nhw wedi arfer byw ynddyn nhw. Doedd y diffyg awyr iach na thai bach yn ddim byd newydd iddyn nhw.
Dodrefn pren
Daw’r dodrefn derw a wnaed â llaw o’r gorllewin. Byddai wedi’i roi fel anrheg priodas i gwpl ifanc. Roedd y mwyngloddwyr haearn yn perthyn i’r dosbarth gweithiol uwch, ac felly roedden nhw’n gallu fforddio prynu nwyddau moethus.
Lle tân
Roedd y tân yn cael ei ddefnyddio i goginio, cynhesu dŵr a sychu dillad. Byddai bwyd yn cael ei goginio mewn crochan uwchben y tân. Byddai’r rhan fwyaf o’r pobi wedi’i wneud ar y maen, sef y darn crwn gwastad o haearn ar ochr chwith y tân. Ar y lle tân mae tegell haearn i ferwi dŵr.
Grisiau
I gyrraedd yr ystafell wely, mae grisiau troellog serth wrth y lle tân. Mae’r drws bach yn arwain at gwpwrdd o dan y grisiau. Yn yr ystafell i fyny grisiau roedd y plant yn cysgu. Roedd y rhieni’n cysgu yn yr ystafell wely fach lawr llawr.
powlenni a phlatiau pren
Ym 1805 roedd pobl y dosbarth gweithiol yn defnyddio powlenni, platiau a llwyau pren i baratoi a bwyta eu bwyd. Byddai’r rhain wedi dod gyda nhw o’r wlad.
Tŷ 1855
Arweiniodd diffyg tai bach a phibellau dŵr at achosion o golera ym 1849 a 1854. Bu farw chwe pherson o Ryd-y-car.
Mewn erthygl bapur newydd am Ferthyr Tudful ym 1849–51, nodwyd bod y strydoedd mewn ‘cyflwr o fudreddi ffiaidd’. Er mwyn atal rhagor o achosion, ychwanegwyd pwmp dŵr cymunedol yn Rhyd-y-car. Ym 1855, roedd y bwthyn hwn yn gartref i Margaret Rosser, gweddw, a’i thri phlentyn.
Mwyngloddiwr haearn fu ei gŵr, William, ond glöwr oedd ei mab 19 mlwydd oed, John.
Llestri Piwter
Erbyn 1855, roedd pobl yn defnyddio defnyddio llestri piwter a jygiau tsieina yn lle platiau a phowlenni pren. Math o fetel yw piwter.
Addurniadau tsieina a darluniau
Er gwaethaf cyflwr gwael strydoedd Merthyr Tudful, gwnaed llawer o ymdrech i gadw tu mewn i dai yn lân a thaclus. Byddai’r preswylwyr yn addurno’u tai gydag addurniadau tsieina a darluniau.
Lle tân
Bellach, roedd gan y lle tân bopty bach, ond byddai’r maen yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer rhai mathau o bobi. Roedd cig yn cael ei rostio drwy ei hongian o gigwain o flaen y tân. Ym 1851, adeiladwyd popty mawr cymunedol ar ben pob teras, oedd yn cael ei ddefnyddio i bobi bara.
Addurniadau crefyddol
Byddai Cristnogaeth wedi chwarae rhan fawr ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl. Mae’r plât tsieina yma wedi’i addurno â dyfyniad o’r Beibl: ‘Thou God Seest Me’. Mae plac arall wedi’i addurno â ‘God is love’ yn hongian uwchben drws.
Tŷ 1895
Erbyn 1895 roedd y tai yn fach ac wedi dyddio. Yn ôl Cyfrifiad 1891, roedd gan 14 o’r 29 tŷ bum preswylydd neu fwy. Cartref William Richards, ei wraig a’i ferch oedd hwn. Signalwr rheilffordd oedd William. Roedd rheilffyrdd yn bwysig iawn i’r diwydiant glo, ac erbyn hyn roedd Rhyd-y-car wedi’i amgylchynu â rheilffyrdd.
Cloddio glo oedd prif waith y dynion lleol. Roedd yn rhaid i ferch William fynd i’r ysgol, gan fod y gyfraith yn ei gwneud yn orfodol i blant rhwng 5 ac 11 oed.
Lle tân a Thwymwr Gwely
Roedd y lle tân yn cael ei ddefnyddio i goginio bwyd, cynhesu dŵr, sychu dillad ac ymolchi o’i flaen. Yn hongian ar ochr chwith y lle tân mae twymwr gwely. Byddai’r badell fetel yn cael ei llenwi â cherrig o’r afon, ei chynhesu ar y tân a’i gosod o dan y dillad gwely i’w dwymo.
Ffenestr a Lamp Olew
Roedd gan y ffenestri ffrâm lithro i adael awyr iach i mewn heb agor y drws. O flaen y ffenestr mae lamp olew, a oedd yn cael ei defnyddio i ddarparu golau erbyn 1895. Roeddent yn dal i ddefnyddio canhwyllau, ond roedd lampau olew yn fwy diogel ac yn rhoi mwy o olau, ac roedd modd ei reoli hefyd.
Gorchuddion Dodrefn Tecstil
Mae’r tecstilau yn y tŷ yma’n creu naws clyd ond anniben, sy’n nodweddiadol o’r cyfnod Fictoraidd. Mae clustogau ar y meinciau a’r cadeiriau pren. Mae coesau’r byrddau wedi’u gwarchod rhag cael eu marcio a’u crafu gan y deunydd sy’n eu gorchuddio.
Dodrefn Pren wedi’u Masgynhyrchu
Daeth dodrefn yn fwy fforddiadwy oherwydd masgynhyrchu, fel y seldfwrdd addurnol yma. Byddai hwn wedi’i werthu am bris fforddiadwy mewn siop leol ym Merthyr.
Tŷ 1925
Ym 1925, roedd y dodrefn gorau’n cael ei osod ar yr ochr sy’n wynebu’r drws fel bod modd ei weld drwy’r drws agored. Byddai’n cael ei adnabod fel ‘yr ochr orau’. Mae llawr leino ar ochr yma’r ystafell i orchuddio’r llechi, yn lle matiau carpiog.
Erbyn 1925, roedd waliau’r brif ystafell wedi’u gorchuddio â phapur wal yn lle paent. Roedd y lle tân yn dal i gael ei ddefnyddio i goginio. Roedd gan y tai ddŵr yn rhedeg erbyn hyn, felly doedd dim angen iddyn nhw fynd i’r pwmp dŵr cymunedol i nôl dŵr.
Cloc Rasio Colomennod
Roedd y cloc hwn yn cael ei ddefnyddio i amseru colomennod rasio. Roedd rasio colomennod yn hobi poblogaidd ym 1925. Roedd colomennod wedi’u hyfforddi’n cael eu rhyddhau ar bellter penodol o’ch cartref, ac yn cael eu hamseru i weld pa mor hir fyddai’n cymryd iddynt ddychwelyd adref.
Ffotograffau
Dyfeisiwyd ffotograffiaeth yn y 1800au ond roedd yn ddrud. Erbyn 1925 roedd ffotograffiaeth yn rhatach. Roedd ffotograffau o deuluoedd yn gyffredin mewn tai dosbarth gweithiol, ac yn cael eu defnyddio i addurno’r waliau.
Cofeb a medalau y Rhyfel Byd Cyntaf
Cofeb i filwr a fu farw yn y Rhyfel yw’r ffotograff hwn mewn ffrâm. Uwch ei ben mae ei fedalau o’r rhyfel. Bu tua 32,000 o ddynion o Gymru farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai gan deuluoedd ledled Cymru gofebion personol fel hyn i aelodau o’r teulu a gollwyd.
Twll i’r arch
Trawst y gellir ei dynnu o’r nenfwd ac o’r llawr yn yr ystafell uwchben yw hwn. Roedd yn ddigon mawr i fynd â dodrefn mawr i fyny’r grisiau, a dod â chyrff marw i lawr o’r ystafell wely. Heb y twll yma, ni fyddai hyn yn bosib gan fod y grisiau’n gul ac yn serth.
Tŷ 1955
Cafodd y tai eu condemnio gan yr awdurdod lleol ym 1935, ond roedd teuluoedd yn dal i fyw yno tan y saithdegau hwyr. Erbyn 1955, gwnaed rhai gwelliannau, fel gosod llechi ar y to ac ychwanegu cyflenwad trydan.
Cegin fach ac ystafell plentyn oedd cefn y tŷ erbyn hyn, ac roedd y brif ystafell wely i fyny’r grisiau. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn dal i weithio yn y pyllau glo, ond roedd nifer y bobl a oedd yn gweithio yn y ffatrïoedd newydd cyfagos yn cynyddu.
Teledu du a gwyn
Dyfeisiwyd y teledu yn ystod y dauddegau, ond doedd gan y rhan fwyaf o dai ddim teledu tan y pumdegau. Prynodd llawer o bobl deledu i wylio coroni’r Frenhines Elisabeth II yn 1953. Sgrin ddu a gwyn oedd gan y teledu, a defnyddiwyd chwyddwydr mawr o flaen y sgrin fach i wneud y llun yn fwy.
Golau trydan
Doedd hi ddim yn gyffredin i dai fod â thrydan yng Nghymru tan yr ôl yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1955, roedd gan dai fylbiau golau a oedd yn rhoi golau mwy llachar a oedd yn para’n hirach. Yn annhebyg i fylbiau arbed ynni heddiw, byddai’r rhain yn mynd yn boeth iawn.
Cadair esmwyth
Cadwyd yr ystafell fyw yn y tŷ ar gyfer achlysuron arbennig fel digwyddiadau teuluol. Dyna lle’r oedd y dodrefn gorau, fel y gadair esmwyth.
Lle tân
Er bod y lle tân yn dyddio o 1795, ni châi ei ddefnyddio i goginio erbyn 1955, ond i wresogi’r tŷ ar ddyddiau oer.
Sied Fyw 1955
Adeiladwyd siediau mawr yn y gerddi gan fod y tai’n fach iawn. Roedden nhw’n cael eu defnyddio fel ystafell fyw ac ystafell waith yn ystod y dydd. Roedd y sied yn cynnig ystafell ychwanegol i wneud gwaith tŷ fel paratoi bwyd, coginio a golchi.
Y tu ôl i’r sied mae’r tŷ bach a Lloches Cyrch Awyr Anderson. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gosodwyd y llochesi Anderson mewn gerddi ledled y de. Wedi hynny, defnyddiwyd nhw fel siediau gardd.
Lle tân a Boeler Golchi
Mae gan hwn bopty, a byddai’r holl goginio’n digwydd yma. Roedden nhw’n dal i ymolchi mewn bath tun o flaen y tân. Ar ben y tân mae boeler golchi, a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ferwi dillad brwnt. Erbyn 1955, roedd gan y teulu beiriant golchi trydanol Hoover hefyd.
Bwrdd sgwrio a thwb golchi
Roedd golchi â llaw yn dal i fod yn gyffredin, ac nid oedd y dull wedi newid llawer ers 150 o flynyddoedd ynghynt yn y tŷ 1805. Gallai gymryd diwrnod cyfan i olchi dillad y cartref i deuluoedd tlotach heb beiriant golchi.
Radio
Roedd radios yn boblogaidd iawn, hyd yn oed pan oedd gan bobl deledu. Ar yr adeg yma, BBC oedd yr unig orsaf ym Mhrydain, ond roedd gorsaf answyddogol o’r enw Radio Luxembourg yn darlledu cerddoriaeth newydd yn anghyfreithlon. Cafodd yr orsaf hon ddylanwad mawr ar ddiwylliant arddegau Prydain.
Tŷ 1985
Ym 1979, gadawodd preswylwyr olaf Rhyd-y-car. Yn yr 80au, dinistriwyd y rhan fwyaf o’r tai, ond cynigiwyd y chwech yma i amgueddfa Sain Ffagan. Erbyn 1985, roedd llawer o bobl wedi colli eu swyddi yn yr ardal gan fod y glofeydd a’r ffatrïoedd lleol yn cau. Mae’r tŷ wedi’i ddiweddaru i safonau’r wythdegau.
Roedd teils to modern yn lle’r teils llechi, fframiau metel ar y ffenestri yn lle’r rhai pren, a phibelli dŵr glaw plastig yn lle’r rhai metel, a drysau newydd wedi’u gosod.
Teledu
Teledu lliw, modern oedd hwn ym 1985. Dim ond un teledu oedd yn y rhan fwyaf o dai, gyda dewis o bedair sianel. Gellid defnyddio chwaraewyr tapiau fideo i chwarae fideos ar y teledu. Gallai pobl wylio’r ffilmiau diweddaraf yn eu tai erbyn hyn.
Pysgod a sglodion
Mae pysgod a sglodion wedi bod yn bryd clasurol ym Mhrydain ers diwedd y 19eg ganrif. Erbyn yr 1980au, roedd bwyta o flaen y teledu yn ddewis poblogaidd yn lle bwyta swper wrth y bwrdd bwyd.
Lle tân
Mae’r lle tân hwn yn nodweddiadol o dŷ yn yr wythdegau. Roedd yn cael ei ddefnyddio i gadw’r tŷ’n gynnes, ac mae’r darn addurnol o’i gwmpas yn rhoi ymdeimlad gwledig i’r tŷ. Mae’r addurniadau tsieina ar y silff ben tân yn ffordd draddodiadol o addurno sy’n dyddio’n ôl dros 130 mlynedd.
Soffa
Erbyn 1985 roedd y teledu wedi dod yn ganolbwynt yr ystafell fyw, a byddai’r cadeiriau’n cael eu gosod fel y gallai’r holl deulu wylio’r teledu gyda’i gilydd.
Cegin 1985
Mae cefn y tŷ wedi’i drawsnewid o gegin fach ac ystafell wely i gegin. Yno gwelir offer trydanol y byddech yn disgwyl eu gweld mewn tai heddiw. Roedd y rhain yn golygu bod coginio yn llawer cyflymach ac yn haws nag yn ystod degawdau blaenorol.
Mae’r bwrdd bwyta yn y gegin, sy’n rhoi mwy o le i ymlacio yn yr ystafell fyw. Mae gan y tŷ waith plymio a dŵr poeth, felly does dim angen cynhesu dŵr ar y tân.
Bath
Gan fod y tŷ yn dal i fod yn fach iawn, ychwanegwyd bath i’r gegin yn lle ychwanegu ystafell ymolchi yn y tŷ. Mae gan y bath orchudd pren y gellir ei ddefnyddio fel bwrdd pan nad yw’r bath yn cael ei ddefnyddio. Byddai hyn yn newid braf o ymolchi mewn bath tun o flaen y tân.
Microdon
Defnyddia’r microdon belydredd microdon i gynhesu bwyd, ac fe’i dyfeisiwyd ddiwedd y pedwardegau. Roedd y rhai cyntaf yn 1.8m o uchder ac yn ddrud. Erbyn yr wythdegau, roeddent yn gyffredin mewn ceginau gan eu bod yn fforddiadwy ac yn llawer llai. Roedd nawr modd cynhesu prydau parod mewn munudau.
Peiriant Golchi
Dyfeisiwyd peiriannau golchi trydanol yn y 1900au. Nid oedd peiriannau golchi awtomatig, fel yr un hwn, yn gyffredin tan y saithdegau. Doedd dim rhaid treulio diwrnod yn golchi dillad bellach.
Roedd modd eu rhoi yn y peiriant a’u gadael i olchi, gan arbed llawer o amser ac ymdrech.
Oergell
Dyfeisiwyd yr oergell drydanol i gartrefi ym 1914 yn wreiddiol, ond roeddent yn ddrud iawn. Erbyn y chwedegau, roedd yr oergell yn rhan hanfodol o’r gegin. Roedd modd cadw bwyd ffres fel llaeth, cig a llysiau am yn llawer hirach. Doedd dim rhaid i bobl siopa bob dydd bellach.