Dan ddaear yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon yn rhan o Dirlun Diwydiannol Blaenafon, a gafodd ei enwi fel Safle Treftadaeth y Byd yn 2002 i gydnabod pwysigrwydd yr ardal i’r Chwyldro Diwydiannol.

Cafodd y stori hon ei chreu ar gyfer prosiect Google Expeditions gan Amledd Cymru, sydd bellach ar gael ar Google Arts & Culture

Underground at Big Pit National Coal Museum by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Dan arweiniad glöwr go iawn gall ymwelwyr ddisgyn 90 metr (300 troedfedd) yn y caets i grombil y pwll i weld sut fywyd oedd gan weithwyr y talcenni glo. Mae arddangosfeydd i’w gweld yn adeiladau hanesyddol y pwll glo sy’n helpu i adrodd stori’r diwydiant glo yng Nghymru.

Ar ei anterth, roedd yn cyflogi dros 1,300 o bobl ac yn cynhyrchu dros chwarter miliwn o dunelli o lo bob blwyddyn. Caewyd Big Pit ym 1980 ac fe’i hail agorwyd dair blynedd yn ddiweddarach fel amgueddfa.

Offer weindio Big Pit 

Roedd Big Pit yn weithredol fel pwll glo o ddechrau’r 1860au ymlaen. Roedd yn rhan o rwydwaith ehangach o weithfeydd glo a sefydlwyd gan Gwmni Glo a Haearn Blaenafon, a hwn oedd y pwll glo pwysicaf yn y dref. Dyma’r offer weindio ar gyfer y lifft neu’r caets, sy’n mynd lawr i’r pwll glo. Pan oedd y pwll glo yn weithredol roedd y caets yn cludo’r glowyr dan ddaear ac yn cludo’r glo i’r wyneb. 

Winding engine house by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Tŷ'r injan weindio

Dyma adeilad yr injan weindio, sy’n creu’r pŵer i godi a gostwng y caets i’r pwll. Er bod yr injan dros 50 mlwydd oed, mae wedi’i moderneiddio’n llawn gyda systemau diogelwch a chyfrifiaduron yn rheoli ac yn monitro ei gweithrediad.

Tomen Coety 

Crëwyd y domen lo hon o’r gwastraff a ddaeth o’r pwll. Mae rhai tomenni glo wedi llithro yn y gorffennol, gyda chanlyniadau trychinebus os ydynt yn rhy agos i gartrefi. Mae’r domen lo hon wedi’i sefydlogi ac yn annhebygol o lithro.

Big Pit in 1910 by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Big Pit yn 1910 

Dyma Big Pit ym 1910, pan oedd y pwll yn weithredol ac yn cyflogi dros 1,000 o bobl. Gallwch weld yr offer weindio, a’r dramiau neu'r wagenni glo.

Offer y glöwr 

Dyma’r ardal ar ben y pwll lle bydd ymwelwyr yn derbyn eu helmed, lamp cap, gwregys, batris a ‘hunan-achubydd’ – yr un offer arferai’r glowyr ei ddefnyddio – cyn mynd dan ddaear yn y caets. Roedd y swyddfeydd yn y rhan hon yn cael eu defnyddio gan reolwr y pwll a’i uwch staff. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu defnyddio ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol, gyda swyddfa’r amserwr wedi’i hadnewyddu a phorthdy’r swyddogion wedi’i droi’n ystafell cymorth cyntaf.

Hunan-achubydd

Mae’r hunan-achubydd yn fath arbennig o resbiradur sy’n caniatáu i bobl anadlu’n ddiogel os bydd nwy yn bresennol dan ddaear. Mewn argyfwng, mae hunan-achubwyr yn rhoi amser i bobl gyrraedd yr wyneb. Yn y gorffennol arferai’r glowyr ddefnyddio caneri i brofi am nwyon dan ddaear. 

A canary in a coalmine by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Caneri mewn pwll glo

Mae ‘rhywogaethau gwarchodol’ gan gynnwys gwenyn, ystlumod, cathod a chŵn wedi cael eu defnyddio i synhwyro sylweddau yn yr amgylchedd sy’n niweidiol i bobl. Mae caneris yn sensitif i nwyon gwenwynig ac roedd glowyr arfer eu defnyddio fel ‘system rybuddio gynnar’ i ganfod nwyon yn y pwll glo.

Helmed a lamp cap

Mae helmed a lamp cap yn hanfodol ar gyfer diogelwch a gallu gweld o dan ddaear. Yn nyddiau cynnar y diwydiant glo, nid oedd dillad nac offer diogelwch ar gael ac roedd canhwyllau’n cael eu defnyddio i oleuo’r pwll.

Arwydd Contraband 

‘Contraband’ yw’r term ar gyfer unrhyw ddeunydd oedd yn cael ei wahardd rhag cael ei gludo dan ddaear. Mae hyn yn cynnwys fflamau noeth neu fatris a allai achosi ffrwydrad os oedd nwy yn bresennol yn y pwll.

Gwaelod y pwll 

Dyma ardal gwaelod y pwll lle bydd y caets yn stopio ar ôl disgyn. Mae’r ymwelwyr yn cael eu gollwng i lawr mewn grwpiau o hyd at 18 o bobl – byddai llawer mwy o bobl yn y caets pan oedd y pwll yn weithredol. Unwaith maen nhw dan ddaear, mae cyn löwr yn tywys yr ymwelwyr ar daith 50 munud o amgylch y talcenni glo, y tai injan a’r stablau. Bydd y tywysydd yn egluro’r dulliau gwahanol o gloddio am lo a’i gludo i’r wyneb, ac yn rhannu rhai o’i brofiadau ef ei hun.

Caets y pwll yn Big Pit

Dyma gaets y pwll, sef lifft oedd yn cludo’r glowyr ac sydd nawr yn cludo ymwelwyr i fyny ac i lawr y pwll. Roedd yr ardal o gwmpas top y siafft, sef y banc fel y’i gelwir, yn fan prysur gyda dynion a deunyddiau yn cael eu cludo i’r wyneb, neu’n aros i ddisgyn i waelod y pwll.

Miners in the cage by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Glowyr yn y caets

Heddiw mae’r caets yn disgyn 90 metr (300 troedfedd) ar gyflymder o 3 metr yr eiliad. Roedd yn gyflymach byth pan oedd Big Pit yn bwll gweithredol. Roedd angen cyflymder er mwyn sicrhau bod y glowyr wrth eu gwaith yn gyflym, a bod modd dod â’r glo a gloddiwyd i’r wyneb cyn gynted â phosibl.

Arolygwr Pen Pwll

Mae’r arolygwr pen pwll yn gyfrifol am ddiogelwch pobl wrth fynd i mewn ac allan o’r caets a chyfathrebu â’r glowyr ar yr wyneb drwy’r system signalau.

Y ffordd i mewn i’r pwll

Wrth ddod allan o’r caets, gallwch weld dechrau’r ffyrdd i mewn i’r pwll, ynghyd â dramiau o lo a fyddai’n mynd yn y caets i’r wyneb pan oedd y pwll yn weithredol.

Gwthio dramiau dan ddaear

Yn ystod shifft gwaith, roedd y dramiau’n cael eu llenwi â glo a’u cludo i waelod y pwll o’r talcenni glo. Cyn y 1840au roedd merched a phlant yn gyfrifol am wthio neu am dynnu’r dramiau i waelod y pwll neu allan o’r pwll ei hun. Gallai hyn ddigwydd gannoedd o weithiau’r dydd.

Taith y dramiau

Ar ôl cloddio’r glo, roedd rhaid ei roi yn y dramiau – wagenni ar olwynion oedd yn rhedeg ar draciau – er mwyn ei gludo i gaets y pwll ac i fyny allan o’r pwll. Mae’r llun yn dangos ‘taith’ o dramiau – nifer o dramiau o lo yn barod i fynd.

Journey of drams

Rheilffordd y pwll

Mae’r glowyr hyn yn gwthio’r dramiau ar y trac, ond fe wyddom mai ceffylau oedd yn cael eu defnyddio fel arfer i dynnu’r dramiau yn Big Pit. Daeth rheilffyrdd y pyllau i fodolaeth cyn dyfodiad y trenau stêm a ddatblygodd yng ngwledydd Prydain ddechrau’r 1800au.

Air door boy by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Bachgen drws awyr

Roedd plant mor ifanc â 5 mlwydd oed yn gweithio fel bechgyn ‘tendio’r drws’ ym mhyllau glo de Cymru. Roeddent yn agor drws yn nhwnnel y pwll er mwyn gadael ceffylau a dramiau drwyddo ac yna’n ei gau. Roedd y drysau aer hyn yn cael eu defnyddio i reoli llif yr aer drwy’r pwll.

System signalau’r pwll

Mae ein tywysydd yn dangos system gyfathrebu danddaearol gynnar. Ym 1913, digwyddodd y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes gwledydd Prydain yng Nglofa Universal yn Senghennydd, pan fu farw 439 o ddynion ac un achubwr mewn ffrwydrad. 

Gwifrau ar gyfer signalau

Yn y system signalau hon, crëwyd cylched trydanol drwy gysylltu 2 wifren wedi’u cysylltu â chloch. Byddai’r gloch yn cael ei seinio mewn cyfres o godau er mwyn dynodi anghenion gwahanol. Roedd y system yn beryglus oherwydd ei bod yn creu gwreichion a allai danio nwy neu lwch glo.

Tŷ’r peiriant tynnu

Ddiwedd y 19eg ganrif, daeth peiriannau i ddisodli’r ceffylau yn y pwll. Roedd peiriannau tynnu fel yr un yma yn Big Pit yn gallu tynnu hyd at 30 o ddramiau ar yr un pryd.

Stablau dan ddaear

Roedd ceffylau’n tynnu dramiau glo o’r talcenni glo i waelod y pwll ac roeddynt hefyd yn tynnu’r dramiau gwag, trawstiau a chyflenwadau yn ôl i lawr. Roedd sawl stabl dan ddaear yn Big Pit lle'r oedd y ceffylau yn byw. Dim ond unwaith y flwyddyn fyddai’r ceffylau yn cael mynd yn ôl i’r wyneb, a hynny yn ystod gwyliau’r glowyr.

Enw un o’r ceffylau yn y stabl

Roedd 72 o geffylau yn gweithio yn Big Pit pan oedd y gwaith ar ei anterth. Roedd enw gan bob ceffyl a gallwch weld yn glir ddau o’r platiau enwau ar waliau’r stabl: Bullet a Victor. Roedd gofaint ym mhob pwll glo ar gyfer trwsio offer a gwneud pedolau.

Harnais siafft a dryll

Siafft a dryll oedd yr enw ar yr harnais ar gyfer ceffyl a oedd yn gweithio dan ddaear. Roedd yn rhan o goler o amgylch gwddf y ceffyl.

Robbie wearing shaft and gun by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, GA&C

Robbie yn gwisgo siafft a dryll

Robbie oedd yr olaf o’r merlod pwll a awdurdodwyd yng ngwledydd Prydain. Cafodd ei anfon i gartref RSPCA ym 1999. Bu farw Pip, y ferlen bwll olaf yng ngwledydd Prydain, yn 2009. 

Talcen y glo

Talcen y glo yw’r man lle'r oedd y glöwr yn gweithio gan ddefnyddio gwahanol offer i dorri’r glo. Weithiau roedd angen torri’r glo gyda ffrwydron. Roedd driliau fel yr un yma yn cael eu defnyddio â llaw i greu tyllau er mwyn gosod y ffrwydron i chwalu’r glo neu’r garreg. Ffrwydro oedd yr enw ar y gwaith hwn.

Mandrel

Yma mae’r glöwr yn defnyddio dril, ond prif offeryn y glöwr oedd mandrel, sef caib gyda phig ar y ddau ben. 

Mandrel

Roedd rhawiau a bwcedi mwyn hefyd yn ddefnyddiol yn y pwll.

Baddondai pen pwll

Cawodydd oedd y baddondai pen pwll yn Big Pit fel bod modd i’r glowyr ymolchi ar ddiwedd eu shifft. O gerdded drwy’r baddondai pen pwll heddiw, mae’n anodd dychmygu’r effaith aruthrol roedd y cyfleusterau hyn yn ei chael ar fywyd y glöwr a’i deulu.

Yr arfer bob dydd

Roedd gan bob glöwr locer ‘glân’ a locer ‘brwnt’. Roedd y glöwr yn gadael ei ddillad bob dydd yn y locer glân ac yn newid i’w ddillad gwaith cyn mynd dan ddaear. Ar ddiwedd y shifft roedd yn gadael ei ddillad gwaith yn y locer brwnt, yn cael cawod ac yn gwisgo’i ddillad glân.

Washing at home

Ymolchi gartref

Cyn cyflwyno baddondai, nid oedd dewis gan y glowyr ond dychwelyd adref yn fudr ac ymolchi mewn bath tun o flaen y tân neu tu allan yn y beili (yr iard gefn).

Loceri baddondai pen pwll

Yn ardal y loceri yn adeilad y baddondai, mae straeon rhai o’r cyn lowyr i’w gweld ar blacardiau.

Bert Coombes 

Roedd Bert Coombes yn gweithio yma fel glöwr am fwy na 40 mlynedd. Ar ôl gweld dau o’i ffrindiau yn marw yn y pwll glo, aeth ati i ysgrifennu am fywyd y glowyr. Teitl ei hunangofiant yw These Poor Hands.

Gwaith y Menywod

Dyma oedd locer Ann Land. Er nad oedd menywod yn cael gweithio dan ddaear o 1842 ymlaen, roeddynt yn parhau i weithio ar yr wyneb mewn rhai pyllau glo. O ddechrau’r 20fed ganrif roedd y swyddi hyn yn cynnwys nyrsys, staff y ffreutur a staff y swyddfa.

Credits: All media
The story featured may in some cases have been created by an independent third party and may not always represent the views of the institutions (listed below) who have supplied the content.
Explore more
Apiau Google