Loading

Postmon ar gefn ceffyl

Geoff Charles (1909-2002)1955

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad gwerthfawr o 120,000 o negyddion y ffotograffydd Geoff Charles. Mae ei ffotograffau’n amhrisiadwy wrth iddynt groniclo amrywiaeth o agweddau ar fywyd yng Nghymru a’r Gororau. Cofnodir llawer mwy na digwyddiadau a phersonoliaethau gan ei waith; cofnodir hefyd bywyd pob dydd pobl cyffredin a datgelir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu mewn nifer o’i ffotograffau.

Mae'r ffotograff hwn yn un o gyfres sy'n dangos y postmon ar gefn ei geffyl yn mynd ar ei rownd i ffermydd anghysbell yn yr ardal fynyddig rhwng Tregaron ac Abergwesyn. Cymerai 9 awr iddo gwblhau'r rownd, er mai dosbarthu i 8 tŷ yn unig a wnai.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites