Gwaith gan yr arlunydd Penry Williams yw’r dyfrlliw hwn o Lansawel ym Morgannwg. Fe’I ganwyd yn fab i saer maen a pheintiwr tai o Ferthyr Tudful, ond treuliodd y mwyafrif o'i fywyd yn Rhufain yn arlunio.
Dechreuodd ei yrfa fel arlunydd yn ei dref enedigol a hynny yn ifanc iawn. Mae'n debyg i Williams gael ei ysbrydoli ym myd celfyddyd gan ei ysgolfeistr ym Merthyr, Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg.
Derbyniodd le i astudio yn yr Academi Frenhinol, Llundain yn 1822, ac mae'n bosibl iddo fedru gwneud hyn oherwydd nawdd gan William Crawshay, meistr gweithfeydd haearn Cyfarthfa a Hirwaun. Yn 1826 symudodd Williams i Rufain ble'r arhosodd nes ei farwolaeth yn 1885. Deuai yn ôl i Gymru yn weddol aml i beintio neu dderbyn comisiynau ac i ymweld â ffrindiau.
Cyn iddo symud i Rufain lluniodd gyfres o ddyfrliwiau cain o olygfeydd yn ne Cymru a Lloegr. Llyfr lluniadu DV432 yw'r unig albwm cyfan llawn gan Williams o'r cyfnod hwn.