Map sy'n dangos sir Gaernarfon (a rhannau o siroedd cyfagos).
Yn 1611, cyhoeddodd John Speed, hanesydd Seisnig a chartograffydd enwog, ei ‘Theatre of the Empire of Great Britain’. Dyma’r ymgais Saesnig cynharaf i gyhoeddi atlas ar raddfa fawr. Mae’r ail gyfrol o’r pedair yn y gwaith hwn yn ymdrin â Chymru ac yn cynnwys map o Gymru (dyddiedig 1610) ynghyd â mapiau unigol o 13 o siroedd Cymru.
Roedd ‘Theatre’ Speed yn llwyddiannus dros ben a daeth y mapiau yn sylfaen ar gyfer atlasau ffolio a gynhyrchwyd hyd at ganol y 18fed ganrif.
Mae gwaith Speed yn welliant ar weithiau cynharach gan gartograffwyr eraill e.e. Christopher Saxton (1542x4?-1610/11), am ei fod yn cynnwys mwy o fanylder a hefyd gan fod yr holl fapiau yn cynnwys cynlluniau mewnosodedig bychain o drefi pwysig.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.