Cafodd y crys hwn ei wisgo gan David Nathan Rocyn Jones yng ngêm y Timau Prifysgol ym 1923. Cai ei adnabod bob amser fel Nathan, er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth ei dad, sef Syr David Rocyn Jones. Roedd y tad a'r mab yn llawfeddygon a aeth ymlaen i fod yn Llywyddion Undeb Rygbi Cymru. Ganed Nathan yn Abertyleri a chafodd ei addysg yn Ysgol Leys, Prifysgol Caergrawnt ac Ysbyty’r Santes Fair lle cwblhaodd ei astudiaethau meddygol. Roedd yn gefnwr a chwaraeodd i glybiau Gasnewydd, Cymry Llundain a Chaerlŷr ac enillodd un Cap dros Gymru.