Dyma enghraifft o gasgliad o ddyfrlliwiau gan John Ingleby (1749-1808) sy'n darlunio golygfeydd yng ngogledd Cymru. Gwelir crefft Ingleby ar ei orau yn ei drefluniau bychain lle mae ei allu i sylwi ar fanylion wedi rhoi inni gofnodion unigryw o fywyd trefol y gogledd. Nodweddir ei ddarluniau gan liwio gwastad mewn dyfrlliw ysgafn tryloyw.
Roedd Ingleby yn arlunydd topograffyddol a arbenigai mewn cynhyrchu golygfeydd bychain mewn dyfrlliw. Yr oedd ei waith yn ddelfrydol fel darluniau yng nghyfrolau hynafiaethol Thomas Pennant. Cyflogai Pennant Ingleby Ingleby ar gomisiwn, a telid Ingleby fesul darlun, y sustem a weithredid dros y canrifoedd wrth gyflogi crefftwyr. Dyma'r arfer cyffredin gydag arlunwyr a oedd yn gweithio ar gofebion, murluniau, dogfennau swyddogol a baneri. Seiliwyd tâl yr arlunydd ar faint o waith yr oedd yn ei gyflawni yn hytrach nag ar safon neu destun y gwaith. Mae hyn yn wahanol iawn i delerau cyflogi ei gyfoeswr a'i gyfaill Moses Griffith, a oedd hefyd yn derbyn nawdd Pennant. Cyflogai Pennant Griffith fel arlunydd amser-llawn, ac o ganlyniad rhoddid iddo statws uwch a rhyddid sylweddol.