Gwisgodd Clive Rowlands y crys hwn pan chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, mewn tywydd eithriadol o oer ym 1963. Chwaraeodd Clive i Gymru mewn 14 gêm ryngwladol yn olynol a bu'n gapten ar ei wlad ym mhob un o'r gemau hynny. Ym 1965 fe enillodd Cymru y Goron Driphlyg o dan ei arweiniad. Er mai dyn o Orllewin Cymru oedd Clive, cafodd gap wrth chwarae ym Mhont-y-pŵl. Wedi iddo ymddeol fel chwaraewr, cafodd Rowlands ei ethol yn Is-lywydd URC, ei benodi i hyfforddi Cymru, ei benodi’n Rheolwr Tîm y Llewod ar y daith i Awstralia ym 1989, a’r flwyddyn honno hefyd fe’i penodwyd yn Llywydd URC. Cafodd y llysenw Top Cat, ac fe roddodd wasanaeth rhagorol i Rygbi Cymru.