Loading

D. C. Harries a'i feibion gyda'r camerau

D. C. Harriesc. 1900

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Gan mlynedd yn ôl roedd gan bob tref o leiaf 1 ffotograffydd ar y stryd fawr. Roedd D. C. Harries yn ffotograffydd o’r fath yn Llandeilo. Yn ddiweddarach agorodd stiwdio yn Rhydaman a Llanymddyfri. Dechreuodd ei fusnes tua 1888 a bu farw yn 1940 yn 75 oed.

Mae portreadau stiwdio D. C. Harries gyda chefndir a phropiau wedi eu paentio, yn rhoi cipolwg ddiddorol i ni ar waith ffotograffydd stryd fawr yn y cyfnod hwnnw. Nid am y ffotograffau hyn y cofir amdano, fodd bynnag, ond am y rheini a dynnwyd yn Llandeilo a’r ardal gyfagos. Mae’r ffotograffau yma yn cofnodi bywyd bob dydd mewn tref fechan a’r ardal wledig o’i chwmpas cyn yr Ail Ryfel Byd.

Er ei fod wedi ei gyfyngu i ardal ddaearyddol fechan, mae ansawdd gwaith D. C. Harries yn rhoi mwy o bwysigrwydd i’w ddelweddau. Mae delweddau o berchennog car newydd yn edrych yn falch y tu ôl i’r llyw, neu wynebau glowyr yn ymddangos ar ôl eu shifft yn ddelweddau sydd ag apêl byd-eang. Felly hefyd y ffotograffau niferus o dyddynnod to gwellt gwyngalchog sy’n rhoi awgrym o ffordd o fyw sydd wedi darfod o’r tir.

Show lessRead more
  • Title: D. C. Harries a'i feibion gyda'r camerau
  • Creator: Harries, D. C.
  • Date Created: c. 1900
  • Location: Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, Cymru
  • Location Created: Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, Cymru
  • Type: Ffotograff
  • External Link: Casgliad D. C. Harries ar wefan LlGC
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites