Y darlun hwn o Gastell Dolbadarn yw astudiaeth ragbaratoawl Turner ar gyfer gwaith a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol yn 1802. Seiliwyd yr astudiaeth ar luniadau a brasluniadau a wnaed yn y castell yn 1798.
Mae'r panel yn esiampl gynnar bwysig o greadigrwydd a dull yr arlunydd o weithio. Yma y mae Turner wedi cyfuno brasluniau a wnaed yn awyr agored gyda themâu o hanes Cymru. Gwelir ffigur Owain Goch ynghyd â milwyr ffyddlon i'w frawd Llywelyn ap Gruffudd yn y blaendir - carcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn gan ei frawd o 1255 hyd at 1277.
Gwelir tirwedd ardal Dolbadarn yn amlwg yn y campwaith cynnar hwn. Mae Turner wedi gwau ynghyd mwy nag un golwg o'r castell i greu tirlun sy ag awyrgylch, goleuni ac ymdeimlad o le. Ac ar yr un pryd ymdeimlir â rhyw dristwch na ellir ei esbonio.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.