Detholiad o 'Pantheologia, neu, Hanes Holl Grefyddau'r Byd' gan William Williams (Pantycelyn). Fel llyfyr, mae 'Pantheologia' yn trafod crefyddau o bob rhan o'r byd ac yn cynnwys disgrifiadau daearyddol, hanesyddol, a naturiol. Yn y detholiad hwn, mae Williams yn beirniadu’r masnach gaethwasiaeth yn Guinea, gan ddisgrifio erchylltra’r Fordaith Ganol a’r driniaeth greulon o gaethweision yng nghyfandiroedd America.
Yn ystod ei oes, cynhyrchodd Williams bron 90 o lyfrau a phamffledi. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido holl weithiau cyhoeddedig William Williams Pantycelyn (dros 4,000 o dudalennau) yn ogystal â dwy o’i lawysgrifau.