'General view of the town & castle of Caernarvon from Tut Hill, looking westward to the Eifl Hills & to the opening at Abermenai from the sea.'
Roedd John ‘Warwick’ Smith (1749-1831) yn arlunydd dyfrlliw enwog iawn yn ei ddydd. Rhwng 1784 a 1806 ymwelodd yn aml â Chymru ac mae’n amlwg iddo gael ei hudo gan y wlad. Yng nghasgliad y Llyfrgell, ceir 162 llun dyfrlliw sy’n dangos ffrwyth ei waith paentio tra’r oedd ar ei deithiau yma.