Ym 1934 chwaraeodd blaenwr Castell-nedd, Dai Prosser, i Gymru ddwywaith. Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Lloegr, chwaraeodd ei ail gêm ryngwladol yn erbyn Yr Alban cyn mynd am ogledd Lloegr i chwarae'n broffesiynol i Efrog.
Aeth nifer o chwaraewyr ifanc dawnus o Gymru i Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn i chwarae ac ennill bywoliaeth yn y 1920au a’r 30au, gan ei bod yn anodd dod o hyd i waith yng Nghymru.
Chwaraeodd Glyn, brawd Dai, i Gymru hefyd ym 1934.
Cyflwynwyd yr oriawr aur hon i Dai gan gymuned Glyn-nedd i nodi ei gamp o chwarae Rygbi Undeb dros Gymru.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.