Crys Cymru Hugh Ingledew o 1890 yw’r crys hynaf yng nghasgliad URC.
Chwaraeodd Ingledew i Glwb Rygbi Caerdydd a chafodd 3 chap dros Gymru, roedd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Iwerddon ym 1890. Roedd yn gyfreithiwr a chwaraeodd ran fawr yn natblygiad Criced Morgannwg.