Roedd Crys y Goron Driphlyg yma o 1977 yn perthyn i J.J. Williams. Enillodd Cymru'r goron Driphlyg (curo Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yng nghystadleuaeth y 5 Gwlad) 4 blynedd yn olynol o 1976-1979.
Roedd “JJ” yn sbrintiwr Rhyngwladol a ddatblygodd yn drichwarterwr gwych ar yr asgell. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc ym 1973 ac aeth ymlaen i chwarae i Gymru 30 o weithiau. Ar daith Llewod Prydain i Dde Affrica ym 1974 roedd yn seren, gan sgorio 4 cais yn y gemau prawf. Aeth ar daith i Seland Newydd gyda'r Llewod ym 1977 hefyd.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.