Sgweier Penlle'r-gaer oedd John Dillwyn Llewelyn. Yn 1833 priododd Emma Thomasina Talbot (1806-1881), cyfnither i William Henry Fox Talbot, dyfeisydd y broses ffotograffig negatif-positif. Yn ystod ei gyfnod ym Mhenlle'r-gaer fe fu'n brysur yn tirlunio'r ystâd gan greu dau lyn yno, codi tai ar gyfer tyfu tegeirianau ac arsyllfa seryddol. Daeth yn ffotograffydd brwd a chrefftus ac yntau a ddyfeisiodd y broses oxymel.