Ffotograff o ferched yn chwarae pêl-droed mewn gêm rhwng Tîm Pêl-droed Menywod Stryd Webster a Chewri Bryngerwn. Rhan o rolyn o bum negyddion o gêm bêl-droed merched yn Nhreharris, a dynnwyd gan y ffotograffydd Geoff Charles, ar y 14eg o Fedi, 1951. Ymddangosodd detholiad ohonynt yng nghyfnodolyn Y Cymro. Rhoddodd Geoff Charles ei gasgliad o 120,000 o negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.