Ffotograff o dîm pêl-droed merched mewn gêm bêl-droed rhwng Tîm Pêl-droed Menywod Webster Street a Chewri Bryngerwn yn Nhreharris yn 1951, wedi'i dynnu gan y ffotograffydd Geoff Charles. Rhan o rolyn o bum negydd. Ymddangosodd detholiad ohonynt yng nghyfnodolyn Y Cymro. Rhoddodd Geoff Charles ei gasgliad o 120,000 o negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.