Roedd Malcolm yn drichwarterwr rhagorol i Gymru a Llewod Prydain yn y 1950au. Cafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc ym 1949, ac roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y Goron Driphlyg a'r Gamp Lawn ym 1950. Enillodd ei berfformiadau y tymor hwnnw le iddo ar Daith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd.
Ym 1952 chwaraeodd Malcolm yn nhîm Cymru a enillodd eu hail Gamp Lawn mewn 3 thymor. Enillodd 27 cap Cymru yn ystod ei yrfa ac aeth ar ail Daith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd ym 1959.
Ganed Malcolm ym 1929 ym Machen. Chwaraeodd y rhan fwyaf o'i rygbi ar lefel clwb i Gasnewydd, lle bu'n chwaraewr rhagorol fel Canolwr ac yn achlysurol fel maswr. Wrth wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol, chwaraeodd Malcolm i Devonport Services, y Llynges Frenhinol a'r Gwasanaethau Cyfun.
O bryd i'w gilydd, ar ddiwedd gêm ryngwladol, mae chwaraewyr yn cyfnewid crysau gyda chwaraewyr o’r tîm arall i gofio am y digwyddiad. Casglodd Malcolm amrywiaeth eang o grysau rhyngwladol gwahanol fel hyn yn ystod ei yrfa yn y 1950au. Rydym yn ddigon ffodus i gael ei gasgliad yn archif URC heddiw, ac mae llawer ohonynt i'w gweld ar y dudalen hon.
You're ready!
Your first Culture Weekly will arrive this week.