Yn 1611 cyhoeddodd John Speed (1551/2-1629), hanesydd Saesnig a chartograffydd enwog, ei ‘Theatre of the Empire of Great Britain’. Dyma’r ymgais Saesnig cynharaf i gyhoeddi atlas ar raddfa fawr.
Mae’r ail gyfrol o’r pedair yn y gwaith hwn yn ymdrin â Chymru ac yn cynnwys map o Gymru (dyddiedig 1610) ynghyd â mapiau unigol o’r 13 sir Gymreig. Roedd ‘Theatre’ Speed yn llwyddiannus dros ben a daeth y mapiau i fod yn sylfeini ar gyfer atlasau ffolio a gynhyrchwyd i fyny hyd at ganol y 18fed ganrif.