Loading

Micrographia

Robert Hooke1665

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd Micrographia gan Robert Hooke yn 1665. Roedd Hooke yn gweithio yn y Gymdeithas Frenhinol fel pennaeth arbrofion ac roedd ei ddiddordebau gwyddonol yn eang. Hwyrach mai ei gyfraniad pwysicaf i’r byd gwyddonol oedd ei ddeddf elastigrwydd, sef Hooke's Law, sy’n datgan fod estyniad 'sbring' (neu weiren) a achosir gan rym cymhwysol yn gymesur i'r grym hwnnw.

Gwnaeth lawer o ddarganfyddiadau dylanwadol ac arloesol eraill hefyd. Er enghraifft, dyfeisiodd y microsgop cyfansawdd ac fe'i defnyddiodd yn ei arbrofion yng nghyfarfodydd y Gymdeithas Frenhinol. Edrychodd Hooke drwy ei ficrosgop ar bryfed, planhigion a phlu adar. Dangoswyd y rhain yn fanwl iawn yn Micrographia. Defnyddiodd Hooke y llyfr i gynnig ffordd newydd i astudio gwyddoniaeth, sef arsylwi’n ofalus a chofnodi'r canlyniadau. Daeth hyn yn ganllaw i'r dull gwyddonol o weithio. Mae'r llyfr yn cynnwys nifer o ddarluniau trawiadol plât-copr, er enghraifft y chwannen sydd yn agor i bedair gwaith maint y llyfr. Disgrifiodd Hooke y chwannen fel creadur: ‘adorn'd with a curiously polish'd suite of sable Armour, neatly jointed.’

Roedd Micrographia yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd ei gyfnod, a chafodd ganmoliaeth gan Samuel Pepys, a arhosodd i fyny tan ddau o'r gloch y bore i’w ddarllen. Dywedodd Pepys mai dyma’r llyfr clyfraf a ddarllenodd erioed.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites