Mae'r pamffled unigryw hwn yn adrodd hanes gweld morforwyn honedig ger Pentywyn, Sir Gaerfyrddin yn 1603. Gwelwyd y creadur yn gyntaf gan Thomas Raynold, iwmon o Bentywyn, a alwodd ar eraill i wylio am dair awr. Croesholwyd Raynold a rhai o'r tystion eraill gan William Saunders yn ddiweddarach.
Roedd straeon am fôr-forynion yn weddol gyffredin yn ystod y bymthegfed ganrif, yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae hyd yn oed cyfeiriad at weld môr-forynion yn nyddlyfr Christopher Columbus (1451-1506) ar gyfer 9fed Ionawr 1493. Credwyd y gallai môr-forynion achub morwyr rhag boddi, ond gallent hefyd ddenu llongau i'w tranc. Parhaodd cred mewn môr-forynion, tylwyth teg a chreaduriaid mytholegol eraill mewn llawer o ardaloedd ym Mhrydain hyd y ddeunawfed ganrif ac weithiau hyd yn oed wedi hynny.Yn raddol, yn wyneb gwrthwynebiad yr Eglwys Brotestannaidd, twf llythrennedd, a diwydiannu, daeth diwedd ar y gred mewn creaduriaid o'r fath, er bod nifer o straeon amdanynt wedi goroesi.