Print gan J.W. Ambrose yn darlunio Castell Penrhyn. Yn y print, mae adar yn hedfan dros dyredau'r castell, a gwelir ymwelwyr yn ymlacio yn y gerddi. Mae'r print yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru, sy'n cynnwys tua 14,000 o brintiau, wedi'u dyddio rhwng canol y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif.