Mae gan y Llyfrgell gyfres o fapiau degwm a rhestrau cysylltiol ar gyfer Cymru. Roedd y degwm yn daliad a godwyd ar ddefnyddwyr tir ac yn wreiddiol byddai’r taliad yma yn cael ei wneud mewn nwyddau fel cnydau, gwlân, llaeth a stoc. Cynhyrchwyd y mapiau degwm rhwng 1838 a 1850 yn dilyn Deddf Cymudo’r Degwm yn 1836 fel rhan o’r broses i sicrhau fod pawb yn gwneud taliad degwm ariannol yn hytrach na chynnyrch.
Mae dros fil o fapiau degwm; dyma’r mapiau mwyaf manwl sydd ar gael o’u cyfnod ac mae map degwm ar gyfer dros 95% o dir Cymru. Mae gan bob map restr pennu sy’n nodi’r degwm dyledus, enwau perchnogion y tir a’r tirfeddianwyr, defnydd y tir ac yn y rhan fwyaf o achosion (75%) ceir enwau’r caeau. Maent yn amrywio mewn manylder ac mae llawer ohonynt heb enwau lleoedd.
Paratowyd tri chopi o’r mapiau a’r rhestrau pennu. Daliwyd y prif gopi gan gomisiynwyr y degwm ac mae’r copi hwnnw bellach yng ngofal yr Archifdy Cenedlaethol. Cadwyd un copi yn yr eglwys leol ac mae llawer o’r rheiny mewn archifdai lleol erbyn hyn. Roedd copi hefyd gan gofrestrfa’r esgobaethau a dyma’r copi sydd nawr yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.